Yr Eglwys Newydd
Mae ein siop sy'n gwerthu eitemau ail-law o ansawdd uchel wedi'i lleoli ar Heol Ty'n-y-Pwll, ger y gylchfan
Rheolwr

Rhoddion
Dewch i ymweld â’n siop yn Yr Eglwys Newydd. Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu a chael eich eitemau ail law. Does ddim angen apwyntiad, gallwch alw heibio’r siop a rhoi eich eitemau. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn cynnig gwasanaeth casglu.
Mae Ymchwil Canser Cymru yn gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n peryglu bywyd. Drwy siopa gyda ni neu roi eich eitemau ail law, gallwch helpu i greu gobaith i bobl y mae canser yn effeithio arnynt heddiw a thrawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld a diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Rhowch eitemau o ansawdd da yn unig fel bod modd i ni eu gwerthu i'n helpu i ariannu ein hymchwil o'r radd flaenaf. Dyma rai enghreifftiau o eitemau y byddem yn eu croesawu:
Dillad/Man bethau – Dillad ail law i fenywod, dynion, plant a neillryw, bagiau, esgidiau, gemwaith, a phersawr a cholur heb eu defnyddio
Nwyddau'r cartref – Fasys, drychau, clociau, lluniau a fframiau lluniau, llestri cegin, gan gynnwys llestri, potiau a sosbenni, cyllyll a ffyrc, gwydrau
Eitemau o ddodrefn bach – byrddau bach, seidbords, stolion Lliain – Llenni, dillad gwely, carthenni, gorchuddion clustogau a rygiau Cyfryngau – Llyfrau, DVDs, CDs a finyl
Yn anffodus, ni allwn dderbyn offer trydanol, eitemau ffwr go iawn, eitemau budr nac eitemau wedi torri. Mae croeso i chi gysylltu â'r siop os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
