Strategaeth Ymchwil
Ymchwil: mae yn ein DNA
Ein Strategaeth Ymchwil yw sylfaen ein dull ar gyfer ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf i fynd i’r afael â’r heriau mawr a’r blaenoriaethau allweddol i ganser yng Nghymru, fel y bydd yn cael yr effaith fwyaf i bobl sy’n byw gyda’r clefyd.
Ers 1966, Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn achub bywydau trwy ymchwil arloesol. Rydym ni wedi gwario dros £30 miliwn yn ariannu’r ymchwilwyr, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i wthio ffiniau ymchwil canser yma yng Nghymru. Mae ein hymchwil yn rhoi gobaith i bobl y mae canser wedi effeithio arnynt heddiw a bydd yn trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.
Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd gan 230,000 o bobl ar draws Cymru ganser. Bydd ein hymchwil yn newid bywyd ein ffrindiau, ein cymdogion ac aelodau ein teulu.