Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Trevor Dale

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Trevor Dale yw Dirprwy Bennaeth yr Isadran Biowyddorau Moleciwlaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr ar signalu celloedd mewn iechyd a chanser. Ymunodd yr Athro Dale â Phrifysgol Caerdydd yn 2003 yn wreiddiol, gan adeiladu grŵp ymchwil sy’n canolbwyntio ar rôl signalu Wnt mewn celloedd a datblygiad dynol, ynghyd â chynhyrchu meithriniadau celloedd organoid 3D. Yn sgil nifer o gyhoeddiadau a chydweithrediadau ar draws nifer o ddisgyblaethau, mae’r Athro Dale yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein dealltwriaeth o ganser.

Prosiectau:
Cynyddwyr ymbelydredd cyffuriau mewn model canser yr ysgyfaint