Yr Athro Richard Clarkson
Mae’r Athro Richard Clarkson yn Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth ar gyfer Banc Canser Cymru, yn Gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewrop ac yn arbenigwr ar fôn-gelloedd canser. Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2005, mae’r Athro Clarkson wedi adeiladu ei grŵp ymchwil gan ganolbwyntio ar ddeall bôn-gelloedd canser, celloedd ymwrthol i driniaeth sydd o bosibl yn gyfrifol am ailwaelu â’r canser, ac archwilio ffyrdd o dargedu’r celloedd hyn â thriniaethau newydd a gynlluniwyd ar y cyd ag Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd. Gan ymwneud â nifer o dreialon clinigol a chydweithredwyr ar draws academia a’r gwasanaethau iechyd, mae ymchwil yr Athro Clarkson yn datblygu ymagweddau newydd at driniaeth canser.
Prosiectau:
ASTRA2 – Banc Canser Cymru