Yr Athro Rachel Errington
Yr Athro Rachel Errington yw Dirprwy Bennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr ar dechnolegau delweddu a microsgopeg. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r Athro Errington wedi adeiladu ei grŵp ymchwil o fewn y Grŵp Microamgylchedd Meinweoedd amlddisgyblaethol, sy’n anelu at ddeall y rhyngweithiadau rhwng canserau a’r amgylcheddau o’u cwmpas. Gyda phrofiad mawr o gydweithredu rhyngddisgyblaethol a chwmni deillio llwyddiannus, mae ymchwil yr Athro Errington wedi gyrru datblygiad chwiliedyddion delweddu celloedd newydd a datblygiadau yn y ddealltwriaeth o nodweddion tiwmorau.
Prosiectau: Modelu culfachau asgwrn sy’n gyrru metastasis y brostad