Yr Athro Mererid Evans
Yr Athro Mererid Evans yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac mae’n oncolegydd clinigol sy’n arbenigo ar ganser y pen a’r gwddf. Ers cwblhau PhD yn 2001 yn ymchwilio i HPV mewn canser serfigol, mae’r Athro Evans wedi cynnal diddordeb ymchwil cryf ochr yn ochr â’i gwaith clinigol, gan ganolbwyntio ar wella triniaethau radiotherapi i wella profiadau cleifion. Ar hyn o bryd, mae’r Athro Evans yn arwain nifer o dreialon clinigol radiotherapi a chydnabuwyd ei harbenigedd wrth ei phenodi’n Ddirprwy Gadeirydd Grŵp Ymchwil Radiotherapi’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Canser, gan ei gwneud hi’n awdurdod blaenllaw yn y maes hwn.