Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Kate Brain

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Kate Brain yw Cyfarwyddwr Cyswllt Iechyd y Boblogaeth yng Ngholeg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd ac mae’n awdurdod blaenllaw ar seicoleg iechyd. Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2004, mae’r Athro Brain wedi mynd ymlaen i adeiladu tîm mawr o ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar ddeall y ffactorau seicolegol ac economaidd gymdeithasol sy’n dylanwadu ar anghydraddoldebau canser ac agweddau tuag at sgrinio a diagnosio canser. A chanddi gatalog enfawr o gyhoeddiadau a rhwydwaith o gydweithredwyr cenedlaethol a rhyngwladol, cydnabyddir bod yr Athro Brain yn ffigur blaenllaw mewn ymchwil seicogymdeithasol ym maes canser.

Prosiectau:
TIC-TOC – Ymgyrch Ddwys, Dargedig yn y Gymuned i Optimeiddio Ymwybyddiaeth Canser