Yr Athro Jeremy Cheadle
Mae’r Athro Jeremy Cheadle yn arbenigwr ar ymchwil enetig, yn y Sefydliad Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ac yntau’n Athro Geneteg Feddygol ers 2005, mae’r Athro Cheadle wedi datblygu hanes rhagorol o ymchwil i ddeall geneteg nifer o glefydau, gan gynnwys canser. Mae’r Athro Cheadle wedi adeiladu grŵp ymchwil sydd â diddordeb ar hyn o bryd yng ngeneteg canser y coluddyn ac ymatebion i driniaeth ganser, gan ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol arloesol. A chanddo nifer o batentau ac amryw gyhoeddiadau, mae’r Athro Cheadle yn awdurdod cydnabyddedig mewn ymchwil eneteg.
Prosiectau:
Dilysu biofarcwyr ar gyfer canser y colon a’r rhefr