Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Gareth Jenkins

Prifysgol Abertawe

Yr Athro Gareth Jenkins yw Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae’n awdurdod blaenllaw ar garsinogenau a mwtaniadau canser. Ymunodd yr Athro Jenkins â Phrifysgol Abertawe fel myfyriwr PhD ym 1993 yn wreiddiol, ac mae wedi adeiladu grŵp ymchwil sy’n canolbwyntio ar sut mae carsinogenau yn achosi canser a defnyddio’r wybodaeth honno i wneud diagnosis o ganser adeg camau cynnar. A chanddo gatalog helaeth sy’n cynnwys dros 100 o gyhoeddiadau a chysylltiadau cydweithredol cryf ag academia a diwydiant, mae’r Athro Jenkins yn arweinydd o ran ymchwil yng Nghymru.

Prosiectau:
Marcwyr difrod DNA integredig mewn gwaed sy’n cylchredeg
Difrod DNA mewn Canser yr Oesoffagws