Yr Athro Duncan Baird
Yr Athro Duncan Baird yw Arweinydd Meddygaeth Enetig a Genomig ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr byd-eang ar fioleg telomer. Ers dod yn Athro yn 2012, mae’r Athro Baird wedi adeiladu grŵp ymchwil mawr sy’n canolbwyntio ar ddeall telomerau a’r ansefydlogrwydd genetig sy’n gysylltiedig â’u camweithrediad mewn canser. Mae ymchwil yr Athro Baird wedi datblygu’r dechneg cydraniad uchaf sydd ar gael i astudio telomerau, ac mae cwmni deillio llwyddiannus yn defnyddio’r technegau hyn ym mhrognosis cleifion. Yn sgil llawer o gyhoeddiadau ag iddynt effaith fawr a rhwydwaith o gydweithredwyr rhyngwladol, mae’r Athro Baird yn arweinydd byd-eang yn y maes difyr hwn.
Prosiectau:
PARP ac atalyddion ligas mewn argyfwng telomerau
Telomerau mewn Glioma