Yr Athro Dean Harris
Mae’r Athro Dean Harris yn llawfeddyg ymgynghorol y colon a’r rhefr, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn arbenigwr ar ganser y coluddyn. Fel Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe ers 2013, mae gan yr Athro Harris hanes trawiadol o ymchwil i ddiagnosteg canser a chanser y coluddyn. Ac yntau wedi sefydlu cwmni deillio yn dwyn technegau diagnostig arloesol i gleifion ac yn sgil nifer o gyhoeddiadau a chyfraniadau at y maes, mae’r Athro Harris ar flaen y gad o ran diagnosis cynnar o ganser.
Prosiectau:
Prawf Gwad Raman
COLOSPECT