Yr Athro Andrew Westwell
Mae’r Athro Andrew Westwell yn arbenigwr ar ddarganfod cyffuriau a synthesis cemegol ac mae’n gyn Ddeon Ymchwil ac Arloesi’r Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ac yntau’n Athro Cemeg Feddyginiaethol ers 2016, mae wedi adeiladu portffolio helaeth o ymchwil i ddylunio, synthesis a gwerthuso biolegol therapïau gwrth-ganser newydd, gan gynnwys nifer sy’n mynd rhagddynt tuag at dreialon clinigol ymhlith cleifion.