Yr Athro Andrew Sewell
Mae’r Athro Andrew Sewell yn arweinydd byd-eang mewn bioleg celloedd T, gan weithio yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunodd yr Athro Sewell â Phrifysgol Caerdydd yn 2006 ac mae wedi adeiladu grŵp ymchwil mawr sy’n canolbwyntio ar ddeall sut mae celloedd T yn adnabod eu targedau a chymhwyso hyn i greu imiwnotherapïau newydd. A chanddo hanes trawiadol o gyhoeddiadau a threialon clinigol, cydnabyddir yr Athro Sewell yn rhyngwladol am fod yn flaenllaw mewn maes sydd â’r potensial i chwyldroi triniaeth canser.
Prosiectau:
Ysgoloriaeth Ymchwil Tom Walker – Peiriannu Celloedd T Optimaidd ar gyfer Trin AML