Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Aled Clayton

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Aled Clayton yw Deon Ymchwil Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr blaenllaw ym maes fesiglau allgellog. Gan ymuno â Phrifysgol Caerdydd ym 1996, mae’r Athro Clayton wedi adeiladu ei grŵp ymchwil o fewn y Grŵp Microamgylchedd Meinweoedd amlddisgyblaethol, sy’n anelu at ddeall y rhyngweithiadau rhwng canserau a’r amgylcheddau o’u cwmpas. Ac yntau’n aelod sylfaenydd y Gymdeithas Ryngwladol er Fesiglau Allgellog a chanddo rwydwaith o gydweithredwyr ar draws nifer o ddisgyblaethau, mae’r Athro Clayton ar flaen y gad yn y maes canser hwn sy’n dod i’r amlwg.

Prosiectau:
Prawf gwaed ar gyfer canser y prostad