Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Alan Parker

Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Alan Parker yn arwain y rhaglen therapiwtig dargedig yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru ac mae’n arweinydd byd-eang ym maes firotherapi (defnyddio firysau fel triniaethau canser targedig).

Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2013, mae’r Athro Parker wedi adeiladu grŵp ymchwil mawr yn arbennig ar gyfer deall a pheiriannu firysau er mwyn targedu canser yn benodol. A chanddo nifer o gyhoeddiadau a chwmni deillio sy’n anelu at drosi eu gwaith i’r lleoliad clinigol, mae’r Athro Parker yn flaenllaw yn y maes ymchwil canser cyffrous hwn.

Prosiectau:

Firotherapi – defnyddio firysau fel ceffylau pren troea i dargedu a lladd canserau pancreatig
Firotherapi imiwn-oncolytig ar gyfer canser y colon a’r rhefr