Dr Paul Facey
Mae Dr Paul Facey yn Athro Cyswllt mewn Gwyddorau Biofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Mae diddordebau ymchwil Dr Facey ym maes deall y microbiom – y llu o facteria sy’n byw yn y corff dynol. Trwy dechnegau genomig a biowybodeg, mae’r ymchwil yn ceisio egluro’r rhyngweithio rhwng y microbiom a’r organeb letyol.