Dr Jason Webber
Mae Dr Jason Webber yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n aelod o fwrdd Cymdeithas Fesiglau Allgellog y DU. Ar ôl cwblhau PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008, parhaodd Dr Webber â’i ymchwil i ecsosomau, gan ddod yn Gymrawd Ymchwil gyda Prostate Cancer UK yn 2014. Ac yntau bellach ym Mhrifysgol Abertawe, mae Dr Webber yn rhedeg grŵp ymchwil sy’n ymchwilio i rôl ecsosomau mewn canserau prostad ymosodol, gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i ddadansoddi ecsosomau o waed cleifion.
Prosiectau: Prawf gwaed ar gyfer canser y brostad