Dr James Powell
Mae Dr James Powell yn Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, gan arbenigo mewn tiwmorau ar yr ymennydd, yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Dr Powell yw'r arweinydd clinigol ac arweinydd ymchwil ar gyfer Niwro-oncoleg yn Felindre ac mae'n arwain Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol yr Ymennydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ymchwilio i ddulliau delweddu newydd ar gyfer oedolion â thiwmorau ar yr ymennydd, a datblygu treialon clinigol er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at driniaethau arloesol fel radiotherapi pelydr proton.