WICKED / ThinkCancer!
Find out what other research we're funding
Lleoliad
Canolfan Ymchwil Gynradd y Gogledd, Wrecsam
Math o ymchwil
Ymchwil Systemau Iechyd a Deilliannau Canser
Math o ganser
Pob canser
Mae Cymru ymhlith y gwledydd gwaethaf eu perfformiad yn Ewrop o ran goroesi canser. Oherwydd bydd y rhan fwyaf o gleifion canser yn ymweld â’u meddyg teulu gyda symptomau cyn cael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd arbenigol, mae meddygon teulu’n gam allweddol ar y daith ganser.
Mae’r gwaith hwn, sydd wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru, yn cynnwys dwy ran. Yn y lle cyntaf, aeth rhaglen WICKED (Ymyriadau a Gwybodaeth am Ganser Cymru ar gyfer Diagnosis Cynnar) ati i ddeall gwybodaeth ac ymddygiadau meddygon teulu a staff eu meddygfa tuag at ganser, cyn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu gweithdy i annog gwelliannau mewn gofal canser.
Cynhaliodd y tîm yn Wrecsam arolygon a chyfweliadau gyda meddygon teulu a staff meddygfeydd o bob rhan o Gymru. Er bod y rhan fwyaf o feddygon teulu’n teimlo’n hyderus wrth ddelio â chleifion â symptomau canser ‘baner goch’, darganfuont nad dyma’r achos o ran cleifion â symptomau amwys, fel colli pwysau’n ddiesboniad. Hefyd, darganfuont nad oedd canllawiau ar gyfer atgyfeiriadau canser yn cael eu cymhwyso’n gyson ar draws meddygfeydd yng Nghymru.
Gyda’r wybodaeth hon, lluniodd y tîm weithdy tair rhan i fynd i’r afael â’u canfyddiadau – roedd y rhain yn cynnwys hyfforddiant i feddygon teulu ar ddiagnosio canser, sesiwn ymwybyddiaeth canser i holl staff meddygfeydd a rhoi gweithdrefnau ‘rhwyd ddiogelwch’ ar waith.
Cyflwynodd y tîm eu gweithdai i 19 meddygfa a chael adborth rhagorol. Roedd gan bob meddygfa bwyntiau gweithredu i weithio arnynt er mwyn sicrhau’r safon gofal gorau i’w cleifion.
Nawr, mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu’r tîm i gynnal treial clinigol Cam III o weithdai ThinkCancer! ar draws Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, i brofi effeithiolrwydd eu hymyrraeth. Y gobaith yw y bydd hyn yn darparu’r dystiolaeth i gyflwyno ThinkCancer! yn genedlaethol, gan sicrhau bod cleifion ar draws Cymru’n gallu cael at ofal canser o safon aur.