Firotherapi – Peiriannu firysau i dargedu a lladd canserau’r pancreas
Find out about our other research
Lleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Triniaethau gwell
Math o ganser
Y pancreas
Mae canser y pancreas yn effeithio ar oddeutu 500 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac mae’n un o’r canserau mwyaf angheuol, gyda llai nag 1 o bob 10 claf yn goroesi am 5 mlynedd. Gan ei fod mor anodd ei ganfod, mae diagnosis o ganser y pancreas yn aml yn cael ei wneud yn hwyr – mae hyn yn golygu bod angen mawr am driniaethau grymus, newydd, sydd o hyd yn effeithiol hyd yn oed mewn tiwmorau datblygedig.
Mae’r prosiect hwn, sydd wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru, yn defnyddio firysau wedi’u peiriannu i dargedu a lladd celloedd canser y pancreas yn effeithlon ac yn ddiogel. Mae tîm yr Athro Parker wedi datblygu firws sy’n heintio ac yn lladd celloedd canser, ond nid yw’n effeithio ar gelloedd iach, trwy dargedu protein penodol sydd i’w gael dim ond ar gelloedd canser.
Yn y prosiect hwn, mae’r tîm yn peiriannu’r firws hwn i gynhyrchu ‘genynnau hunanladdiad’ pan fydd yn heintio celloedd canser y pancreas, sy’n gwneud i’r celloedd canser gynhyrchu cyfansoddion gwenwynig, ac wedyn marw. Maen nhw hefyd yn ymdrechu i beiriannu’r firws i ‘ddifodd’ protein allweddol sy’n gyrru ffurfiant canser.
Nod y prosiect hwn yw datblygu firysau grymus tu hwnt sy’n lladd canser, a allai drin canser y pancreas mewn modd diogel ac effeithiol.