Symud at y prif gynnwys

Defnyddio RNAs wedi’u Hamgáu ag EV (fesiclau allgellog) mewn Gwaed ar gyfer Adnabod Cleifion â Chanser y Prostad Ymosodol yn Gynnar

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Abertawe

Math o ymchwil

Diagnosis Cynnar

Math o ganser

Y brostad

Mae’r ffordd y mae celloedd yn siarad â’i gilydd yn helpu canserau’r prostad i ddod yn fwy ymosodol. Mae celloedd canser yn siarad â’u cymdogion wrth anfon pecynnau bach, a elwir yn fesiclau allgellog. Mae’r fesiclau hyn yn helpu’r canser i dyfu ac wedyn i ledaenu i fannau eraill yn y corff. Maen nhw’n gwneud hyn wrth ddianc o’r prostad a mynd i mewn i lif gwaed y claf. Yna, gall y fesiclau adael y llif gwaed mewn mannau fel yr esgyrn, yr ysgyfaint a’r afu. Wedi iddynt gyrraedd, gall y fesiclau weithredu fel ceffyl pren Caerdroea. Maen nhw’n twyllo celloedd normal i greu amgylchedd hawdd i gelloedd canser y prostad ei feddiannu. Mae hyn yn arwain at ledaenu’r clefyd.

Mae’r fesiclau hyn yn cynnwys gwybodaeth genetig (RNAs) a all roi gwybodaeth am y canser y daethant ohono. Wrth ganfod yr RNAs hyn sy’n gysylltiedig â fesiclau allgellog mewn samplau o waed, gallwn ddweud a oes gan glaf ganser y prostad, a pha mor debygol yw’r canser o ledaenu.

Byddai hyn yn ein helpu i ddod o hyd i bobl sydd mewn perygl o gael canser y prostad cyn i’r clefyd gael cyfle i ledaenu. Hefyd, byddai’n helpu i osgoi biopsïau ac yn helpu meddygon i ddewis triniaethau gwell ar gyfer y cleifion hyn. Byddai’n golygu gwelliant mawr ym mywydau cleifion â chanser y prostad.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Jason Webber

Prifysgol Abertawe