Symud at y prif gynnwys

TIC-TOC - Ymgyrch Targedig Dwys yn y Gymuned i Optimeiddio Ymwybyddiaeth Canser

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Diagnosis Cynnar

Math o ganser

Pob canser

Ar hyn o bryd, mae Cymru ymhlith y gwledydd isaf eu perfformiad yn Ewrop o ran goroesi canser. Un rheswm dros hyn yw faint o amser mae’n ei gymryd o’r adeg pan fydd y symptomau’n datblygu yn y lle cyntaf i’r adeg pan fydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (meddyg teulu fel arfer) yn gweld y claf. Mae hyn yn arbennig o wir i’r 50% o gleifion canser sydd â symptomau amwys, fel colli pwysau neu flinder. Mae sefydlu Canolfannau Diagnostig Cyflym yn ddiweddar, sef canolfannau un stop lle y gellir cynnal llu o brofion i asesu cleifion â symptomau amwys o fewn wythnos i weld eu meddyg teulu, yn gam pwysig tuag at wella deilliannau canser yng Nghymru. Fodd bynnag, gall cleifion ond cael eu hatgyfeirio i Ganolfannau Diagnostig Cyflym os byddant yn mynd i weld eu meddyg teulu yn y lle cyntaf.

Mae’r treial hwn, sydd wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru, yn archwilio ymarferoldeb ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser, yn enwedig symptomau amwys, ac annog pobl i ymweld â’u meddyg teulu os byddant yn dangos y symptomau hyn. Mae tîm yr Athro Kate Brain a Dr Grace McCutchan wedi creu deunyddiau gwybodaeth ac wedi hyfforddi hyrwyddwyr canser cymunedol i gyflwyno’u negeseuon yn uniongyrchol i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, dros gyfnod o 6 mis. Yna, bydd y tîm yn dadansoddi cryfderau a gwendidau’r ymgyrch a llwyddiant cyrraedd y cymunedau targed, gan ddefnyddio cyfweliadau, holiaduron a data o’r Canolfannau Diagnostig Cyflym.

Dylai’r treial roi cipolwg i allu ymgyrch o’r fath wella ymwybyddiaeth canser, ond hefyd i ymarferoldeb cynnal yr ymgyrch a chasglu’r data angenrheidiol i asesu ei effaith. Mae llwyddiant llawer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth canser traddodiadol yn gyfyngedig yn aml ac mae unrhyw fuddion yn fyrhoedlog. Nod TIC-TOC yw creu effaith sy’n cael ei theimlo am gyfnod hwy a chyrhaeddiad ehangach, trwy rymuso pobl i ofalu am eu hiechyd eu hunain. Os bydd y treial hwn yn llwyddiannus, bydd yn llywio cyflwyno ymgyrchoedd ymwybyddiaeth tebyg ar raddfa fawr yn y dyfodol ac, o bosibl, bydd yn dylanwadu ar ymarfer a pholisi cenedlaethol o ran ymyriadau ymddygiadol mewn ardaloedd difreintiedig.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Kate Brain

Prifysgol Caerdydd