Symud at y prif gynnwys

Dilyniannu Hir-ddarllen Moleciwl Sengl mewn Diagnosteg Canser yr Ysgyfaint: Datblygu Oncoleg Fanwl

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Math o ymchwil

Diagnosis Cynnar

Math o ganser

Yr ysgyfaint

Mae canser yn deillio o fwtaniadau o fewn celloedd sy'n achosi twf direolaeth. Caiff y diffygion hyn eu hachosi gan newidiadau yn DNA’r gell sy’n cyfrannu at ddatblygiad canser, ond mae clinigwyr hefyd yn gallu defnyddio'r newidiadau hyn i lywio penderfyniadau ynghylch triniaeth. Er mwyn adnabod y newidiadau hyn a phennu triniaethau addas, fel arfer cymerir samplau yn uniongyrchol o diwmorau a chaiff y DNA ei ddilyniannu. Defnyddir technegau cyfrifiadurol datblygedig i drosi'r wybodaeth sy'n deillio o'r broses dilyniannu yn gyngor y gellir ei weithredu gan glinigwyr.

Mae nifer o gyfyngiadau i'r broses bresennol:
- Mae cymryd samplau o diwmorau yn gallu bod yn ymwthiol, yn ogystal â chymryd llawer o amser.
- Mae technegau dilyniannu presennol yn methu nodi rhai mathau o newidiadau genetig.
- Dim ond mewn nifer fach o enynnau y caiff newidiadau DNA eu hasesu.

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, bydd y prosiect hwn yn defnyddio samplau gwaed yn lle meinwe a gymerwyd yn uniongyrchol o’r tiwmorau, gan ganolbwyntio ar ganser yr ysgyfaint. Mae tiwmorau'n gollwng rhywfaint o'u DNA i'r gwaed, felly bydd y DNA hwn yn cael ei ddal, a bydd yn destun math newydd o ddilyniannu sy'n dal darnau hirach o DNA, a thrwy hynny'n adnabod newidiadau a gollwyd yn flaenorol. Wedyn, bydd technegau cyfrifiadurol yn cael eu datblygu i alluogi adrodd ar newidiadau ar draws set lawer ehangach o enynnau na'r hyn a ddefnyddir ar hyn o bryd.

Ar y cyfan, bydd y prosiect hwn yn galluogi cynnal prawf cyflymach a mwy cynhwysfawr, gan arwain at ddull mwy effeithiol a phersonol o drin canser.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Sophie Shaw

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro