Symud at y prif gynnwys

Prawf Gwaed Raman

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Abertawe

Math o ymchwil

Diagnosis Cynnar

Math o ganser

Y coluddyn

Canser y coluddyn yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, gyda diagnosis ar gyfer oddeutu 2500 o achosion bob blwyddyn. Mae’r dulliau presennol o brofi am ganser y coluddyn yn dibynnu ar becynnau canfod gwaed yn y carthion, sy’n annymunol a lefel eu cywirdeb yn isel, ac wedyn colonosgopi i gadarnhau’r diagnosis. Mae colonosgopïau yn weithdrefnau ymyrrol ac mae rhestr aros sylweddol oherwydd bod adnoddau dan straen.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi ariannu ymchwil dros nifer o flynyddoedd yng ngrŵp yr Athro Dean Harris a’r Athro Peter Dunstan ym Mhrifysgol Abertawe; nod yr ymchwil yw cynhyrchu prawf gwaed i ganfod canser y coluddyn yn gywir, a hynny’n gyflym ac yn hawdd.

Mae’r prawf yn defnyddio techneg o’r enw sbectrosgopeg Raman i ddadansoddi ‘ôl bys moleciwlaidd’ samplau gwaed cleifion. Trwy ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol datblygedig, gall cyfrifiadur bennu o’r ôl bys hwn p’un a yw canser y coluddyn yn bresennol ai peidio, gyda lefel uchel o gywirdeb.

Yn dilyn treialon mewn dros 2000 o gleifion, darganfuwyd bod prawf gwaed Raman yn canfod 100% o ganserau’r coluddyn cam hwyr a 4 allan o 5 canser cam cynnar, sy’n well o lawer na phrofion eraill sydd ar gael.

Er bod angen colonosgopi o hyd i gadarnhau’r diagnosis, mae treialon prawf gwaed Raman mewn meddygfeydd wedi dangos y gallai dros 60% o golonosgopïau gael eu hosgoi. Byddai hyn yn helpu i gynnig amseroedd aros byrrach i’r bobl sydd angen colonosgopi a thawelwch meddwl i bobl nad oes angen colonosgopi arnynt. Mae’r tîm bellach yn asesu effeithiolrwydd prawf gwaed Raman ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn.

Yn gyffrous, maen nhw’n datblygu ymhellach eu dull er mwyn canfod mathau eraill o ganser, gan gynnwys canser yr ysgyfaint a chanser y fron. Y nod yn y pen draw yw cael prawf sy’n gallu canfod amrywiaeth o ganserau o un sampl gwaed.


Mae’r gwaith arloesol hwn yn cynnig potensial diagnosis cynt i filoedd o gleifion canser.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Dean Harris

Prifysgol Abertawe

Yr Athro Peter Dunstan

Prifysgol Abertawe