Symud at y prif gynnwys

PROTACs fel y Genhedlaeth Nesaf o atalyddion Bcl3 – Dulliau Cemegol i Ysgogi Diraddio Protein yn Ddetholus

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Y Fron, Y coluddyn

Mae angen meddygol taer sydd heb ei fodloni am driniaethau gwell ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser datblygedig y colon a’r rhefr (y coluddyn), yn enwedig y cleifion hynny sy’n cario mwtaniad mewn protein allweddol o’r enw KRas sy’n rheoli celloedd (sy’n cynrychioli tua 40% o gleifion). Ceir diffyg triniaethau effeithiol ar gyfer cleifion canser y coluddyn sydd â’r mwtaniad KRas, gyda <50% yn goroesi y tu hwnt i 5 mlynedd. Yn ddiweddar, mae ein tîm wedi nodi cyffur newydd ar gyfer targedu Bcl3, sef protein a nodwyd gan dîm Caerdydd sy’n gyrru nodweddion sylfaenol canser y coluddyn (e.e. ymlediad; ymlediad a metastasis). Mae’r gwaith arloesol hwn wedi arwain at gyffur newydd ar gyfer atal Bcl3 mewn gwaith datblygu cyn-glinigol, sydd â phroffil diogelwch ‘glân’ ar gyfer ei weinyddu drwy’r geg yn ddyddiol, ochr yn ochr â chyffuriau canser eraill.

O ystyried y cymhlethdodau a’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â datblygu cyffuriau canser, mae arnom angen dulliau therapiwtig amgen. Yn y cyd-destun hwn, mae technoleg sy’n dod i’r amlwg ar gyfer diraddio protein yn ddetholus, o’r enw PROteolysis Targeting Chimeras (PROTACs), yn ddull deniadol. Er bod rhai PROTACs wedi symud ymlaen at y cam gwerthuso clinigol, nid oes yr un sy’n targedu Bcl3.

Byddwn yn cyfosod atalyddion Bcl3 Caerdydd sydd wedi’u cysylltu’n gemegol â moleciwlau sy’n dinistrio proteinau yn ddetholus. Bydd diraddio’r protein Bcl3 yn ddetholus mewn celloedd canser yn cael ei asesu, a bydd y cyffur PROTAC newydd mwyaf addawol yn cael ei ddatblygu er budd cleifion yn y dyfodol.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Andrew Westwell

Prifysgol Caerdydd