PEARL – Gwneud radiotherapi yn fwy effeithiol gan leihau sgîl-effeithiau hirdymor
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Canolfan Ganser Felindre
Math o ymchwil
Triniaethau gwell
Math o ganser
Y pen a’r gwddf
Mae canser oroffaryngol yn fath o ganser y pen a’r gwddf sy’n effeithio ar y daflod feddal, y tonsiliau a bôn y tafod. Mae’n fwyfwy cyffredin, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, gyda chyfraddau’n dyblu yn y 15 mlynedd diwethaf. Mae’r canser hwn yn aml yn cael ei achosi gan HPV (feirws papiloma dynol) ac, yn yr achosion hyn, mae gan gleifion brognosis da, gyda llawer ohonynt yn debygol o gael eu hiachau.
Gwaetha’r modd, yn dilyn y driniaeth arferol â radiotherapi, mae llawer o gleifion yn dioddef sgîl-effeithiau gwanhaol, sy’n gallu bod yn barhaol. Gall y rhain gynnwys trafferth llyncu (neu hyd yn oed yr angen i ddefnyddio tiwbiau bwydo), colli blas a fferdod yn y geg. Mae’r sgîl-effeithiau hyn yn cael eu hachosi gan yr ymbelydredd sy’n niweidio meinweoedd iach o gwmpas y tiwmor yn ystod radiotherapi.
Mae PEARL yn dreial clinigol wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru sy’n ymchwilio i ddefnyddio sganiau PET-CT i wella cynllunio radiotherapi a lleihau sgîl-effeithiau i gleifion canser oroffaryngol. Mae sganiau PET-CT (Tomograffeg Allyrru Positronau-Tomograffeg Gyfrifiadurol) yn cyfuno dau wahanol fath o sganio sy’n caniatáu am ddelweddu tiwmorau yn fwy cywir. Yn nodweddiadol, mae cleifion canser oroffaryngol yn cael sgan PET-CT ar ôl eu diagnosis, fel y gall clinigwyr gynllunio’u triniaeth radiotherapi.
Yn nhreial PEARL, mae tîm yr Athro Evans yn cynnal ail sgan PET-CT hanner ffordd drwy’r cwrs triniaeth radiotherapi. Mae’r sgan newydd yn caniatáu ar gyfer diweddaru’r cynllun radiotherapi, gan gyfrif am faint mae’r tiwmor wedi lleihau – mae hyn yn helpu i sicrhau bod meinweoedd iach ger y tiwmor yn cael eu harbed cymaint â phosibl.
Nod y treial yw asesu p’un a yw’r dull hwn yn ymarferol ac a yw sgîl-effeithiau’n cael eu lleihau diolch i dargedu’r tiwmor sy’n weddill yn fwy cywir ar ôl y driniaeth gychwynnol.
Hefyd, mae nifer o is-astudiaethau a fydd yn defnyddio data a ddaw o dreial PEARL. Bydd y cyntaf o’r rhain yn asesu’r defnydd o algorithm dysgu peirianyddol i wahaniaethu rhwng tiwmor a meinwe iach ar sganiau PET-CT. Bydd yr ail yn ymchwilio i ddefnyddio radiomeg - mae hyn yn cynnwys dadansoddi sganiau PET-CT â chyfrifiadur i ganfod gwahaniaethau a darogan pa mor dda mae cleifion yn ymateb i driniaeth.