Radiosensiteiddwyr Newydd ar gyfer Canser y Fron Driphlyg-Negyddol
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Abertawe
Math o ymchwil
Triniaethau gwell
Math o ganser
Y Fron
Mae canser y fron driphlyg-negyddol (TNBC) yn is-deip ymosodol o ganser y fron sydd â phrognosis sylweddol waeth a risg uwch o atglafychu o gymharu ag is-deipiau eraill. Yn seiliedig ar broffilio genetig, mae rhai cleifion TNBC yn elwa ar feddyginiaethau manwl wedi'u targedu, megis atalyddion PARP, er bod buddion y rhain, hyd yn oed, yn gyfyngedig.
Mae defnyddio therapïau cyfunol yn gallu gwella canlyniadau cleifion. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyffuriau newydd sy'n targedu tiwmorau ac sy'n cyfuno'n synergyddol â thriniaethau presennol, megis radiotherapi. Mae rhai strategaethau ‘radiosensiteiddio’ eisoes yn cael eu defnyddio, er bod y rhain yn cynnwys defnyddio cemotherapïau traddodiadol a ddefnyddiwyd gyntaf ddegawdau yn ôl. Mae cleifion sy'n derbyn y triniaethau hyn yn dioddef sgîl-effeithiau sylweddol.
Nod y prosiect hwn yw datblygu cyffur radiosensiteiddio cryf sy'n cynnwys effaith atalydd PARP, i'w ddefnyddio mewn achosion o TNBC. Byddwn yn defnyddio egwyddor dylunio moleciwlaidd sy'n ymgorffori'r holl feini prawf sydd eu hangen ar gyfer radiosensiteiddio llwyddiannus ac yn darparu dadansoddiad biolegol manwl o'r cyfansoddion hyn, ar y cyd ag ymbelydredd, i adnabod y cyffuriau sydd â'r addewid clinigol mwyaf.