Symud at y prif gynnwys

Ymenyddiau Bach: Llunio Model Glioblastoma Aml-linach

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Yr Ymennydd

Glioblastoma (GBM) yw'r math mwyaf cyffredin ac ymosodol o diwmor malaen yr ymennydd mewn oedolion. Mae GBM yn lluosi'n gyflym a gall ledaenu'n helaeth i rannau eraill iach o'r ymennydd, gan ei gwneud yn anodd iawn ei drin. Hyd yn oed ar ôl triniaeth (sef llawdriniaeth, fel arfer, lle bo hynny'n bosibl, neu fel arall, radio/cemotherapi) mae gan GBM brognosis gwael iawn - mae tiwmorau’n ailymddangos yn aml, a cheir goroesiad nodweddiadol o tua 15 mis yn dilyn diagnosis.

Micro-amgylchedd tiwmor (TME) yw'r enw a roddir ar y celloedd a'r meinwe nad ydynt yn ganseraidd o fewn tiwmorau ac o'u hamgylch sy'n cefnogi goroesiad a thwf y canser. Mewn achosion o GBM, mae'r TME yn ddeinamig a chymhleth, gan gael effaith ddofn ar ymosodoldeb tiwmorau a'u hymateb i driniaeth. Mae deall y rhyngweithiadau rhwng GBM a'r TME yn allweddol o ran gwella triniaethau.

Nid yw'r rhan fwyaf o'r modelau sydd ar gael ar gyfer astudio GBM yn adlewyrchu'r senario clinigol. Yn y prosiect hwn, mae'r tîm yn defnyddio technoleg bôn-gelloedd i greu organoidau ymennydd (neu "ymenyddiau bach") sy'n deillio o gelloedd a gymerwyd o gleifion GBM, i lunio model ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Yn ystod y prosiect, byddant yn defnyddio'r model hwn i astudio sut mae GBM yn rhyngweithio â'i TME, ac archwilio yn arbennig rôl y system imiwnedd.

Nod terfynol y gwaith hwn yw creu'r model mwyaf realistig o GBM a'i TME, er mwyn galluogi profi cyffuriau newydd a hwyluso ymchwil ar diwmorau'r ymennydd yn y dyfodol.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Mark Gumbleton

Prifysgol Caerdydd