MIMOSA: Asesiad MRI o Ficrostrwythur Tiwmor mewn Glioblastoma
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Yr Ymennydd
Glioblastoma Multiforme (GBM) yw'r canser yr ymennydd mwyaf ymosodol mewn oedolion ac un o'r mathau mwyaf ymosodol o diwmor solet. Nid oes unrhyw wellhad hysbys ar ei gyfer, a cheir goroesiad cyfartalog o 12-15 mis yn dilyn diagnosis. Mae angen gwella ar fyrder ein dealltwriaeth o GBM a sut i'w drin. Yn allweddol yn hyn o beth ac wrth ddatblygu triniaethau newydd yw deall y ffordd y mae GBM yn defnyddio'r ymennydd normal o'i amgylch i'w helpu i ddod yn fwy ymosodol.
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y cydweithio sefydledig rhwng y tîm tiwmorau'r ymennydd yng Nghanolfan Ganser Felindre, a'r Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (CUBRIC). Byddwn yn defnyddio'r arbenigedd sy'n arwain y byd, a'r sganwyr ymennydd datblygedig sydd ar gael yn CUBRIC, gyda chleifion â GBM. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall a rhagfynegi sut mae tiwmorau cleifion yn newid yn dilyn triniaeth, ac yn bwysig, ein galluogi i weld yn gynharach os yw triniaeth yn gweithio ai peidio.
Er mwyn gwneud y mwyaf o effaith y gwaith ymchwil hwn, byddwn yn casglu cronfa ddata gyfatebol sy'n llawn gwybodaeth glinigol, gan ddarparu adnodd ar gyfer gwella ymchwil i diwmorau'r ymennydd. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar rwydwaith presennol o arbenigwyr mewn ymchwil a thriniaethau tiwmorau'r ymennydd a fu'n gweithio gyda'i gilydd ers dros 5 mlynedd gyda chefnogaeth gan gleifion a gofalwyr.