Symud at y prif gynnwys

Ymchwilio Mecanistig i Achosion Difrod i DNA Lymffosytau a Achosir gan Diwmorau

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Abertawe

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Oesophageal

Mae canlyniadau mewn achosion o ganser yn llawer gwell os caiff y canser ei ddal yn gynnar, a dyna pam mae angen diagnosis cynharach. Nid yw’r Deyrnas Unedig (DU) yn perfformio’n dda o ran goroesi canser ac mae Covid-19 wedi arwain at ddiagnosis hwyrach i lawer o gleifion, ac oedi cyn cynnal profion diagnostig, e.e. trwy endosgopi.

Felly, mae angen i ni fynd ati i chwilio am ddulliau diagnostig newydd er mwyn gwella cyfraddau canfod, a goroesi yn y pen draw. Mae diddordeb cynyddol yn y defnydd o “fiopsi hylif”, sy’n cyfeirio at y defnydd o brofion gwaed ynghyd â biofarcwyr ar gyfer gwneud diagnosis o ganser yn gynharach ac mewn ffordd lai ymwthiol. Gallai meddygon teulu ddefnyddio biofarcwyr biopsi hylif dilys fel mater o drefn i brofi cleifion am arwyddion cynnar o ganser a chyfeirio cleifion ar gyfer profion diagnostig dilynol.

Rydym wedi datblygu biofarciwr newydd yn seiliedig ar waed lle’r ydym yn canfod newidiadau mewn DNA (mwtaniadau) mewn celloedd gwaed normal sy’n cylchredeg, a achosir gan diwmor sy’n datblygu. Gan ddefnyddio’r dull unigryw hwn, rydym wedi dangos bod celloedd gwaed cleifion canser (sef celloedd coch a chelloedd gwyn y gwaed) yn cario mwy o fwtaniadau na rheolyddion sy’n cyfateb o ran oedran, neu wirfoddolwyr iach. Mae angen i ni nodi ar fyrder y mecanwaith sy’n arwain at y mwtaniadau hyn. Yn hyn o beth, cynigiwn gynnal astudiaethau mecanistig i’n helpu i esbonio beth sy’n achosi’r mwtaniadau yn y celloedd gwaed.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Gareth Jenkins

Prifysgol Abertawe