Ymchwilio Gwerth Rhagfynegol Ffibroblastau mewn Canser y Prostad
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Y brostad
Mae canser y prostad sydd heb ledaenu o amgylch y corff yn cael ei drin yn aml â llawdriniaeth i dynnu'r brostad. Mae llawdriniaeth yn gwella llawer o gleifion, ond mewn 30% o achosion, mae canser yn ailymddangos o fewn 5 mlynedd - ac wedyn mae'n gallu datblygu i fod yn glefyd anwelladwy.
Mae adnabod ym mha gleifion y bydd canser yn ailymddangos yn parhau i fod yn her allweddol, ac mae angen biofarcwyr moleciwlaidd (sef marcwyr microsgopig sy'n gysylltiedig â'r canser) sy'n gallu dangos pa gleifion sy'n wynebu risg.
Mae celloedd arbenigol nad ydynt yn ganseraidd, a elwir yn ffibroblastau, yn bresennol yn y brostad ac mae'r rhain yn gallu cyfarwyddo'r canser i dyfu a symud o amgylch. Mae'n hysbys bod ffibroblastau yn orweithredol mewn canser y prostad, ond nid yw'n hysbys ar hyn o bryd os gall eu presenoldeb ddangos y tebygolrwydd y bydd canser yn ailymddangos.
Nod y prosiect hwn yw darganfod a yw ffibroblastau actifedig yn gallu rhagfynegi ym mha gleifion y bydd canser y prostad yn ailymddangos. I gyflawni hyn, bydd y tîm yn defnyddio technegau delweddu arloesol i ganfod faint o ffibroblastau sydd yn y brostad, a'u lleoliad a'u math, gan ddefnyddio samplau llawfeddygol a gymerwyd o gleifion â chanser sydd wedi dychwelyd, o gymharu â chleifion sydd heb brofi hyn.
Mae potensial cryf y bydd y canfyddiadau yn gallu nodi biofarciwr sydd ei angen ar frys, a all ddangos y risg y bydd canser yn dychwelyd mewn claf ar ôl llawdriniaeth, a gellir defnyddio hyn i lywio a gwella gofal cleifion.