Imiwnogenedd Canser y Colon a’r Rhefr
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Y coluddyn
Canser y coluddyn yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda diagnosis ar gyfer dros 2000 o achosion bob blwyddyn. Yn wahanol i rai canserau eraill, fel melanoma, nid yw canser y coluddyn wedi elwa eto o ddatblygiadau mewn imiwnotherapïau, sy’n harneisio’r system imiwnedd i ymosod ar diwmorau a’u lladd. Mae’r rhesymau dros yr anghysondeb hwn yn ansicr, gan olygu bod angen clir i ddeall rôl y system imiwnedd yng nghanser y coluddyn i helpu gwella imiwnotherapïau.
Mae’r astudiaeth hon, sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil Canser Cymru, yn archwilio’r ffordd y mae celloedd gwyn y gwaed o’r enw celloedd T yn adnabod ac yn rhyngweithio â chelloedd canser y coluddyn, i ddeall pam na all y celloedd T hyn atal y tiwmor rhag datblygu. Mae’r tîm yn defnyddio technegau datblygedig i ddadansoddi pa broteinau canser mae’r celloedd T yn eu hadnabod ac i archwilio’r mecanweithiau mae’r canser yn eu defnyddio i atal celloedd T rhag ymosod arno’n effeithiol.
Gyda’r wybodaeth a geir o’r astudiaeth gyffrous hon, gobaith y tîm yw gallu llywio cynllunio imiwnotherapïau gwell sy’n gallu trin cleifion yn effeithiol, gyda’r potensial i chwyldroi triniaeth canser y coluddyn.