Symud at y prif gynnwys

Nodi Marcwyr Diagnostig Newydd Canser y Colon a’r Rhefr Wrth Archwilio’r Rhyngweithiadau Rhwng Cromosomau sy’n Cyd-fynd â Chynnydd Malaen

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Y coluddyn

Ledled y byd, canser y coluddyn yw’r canser mwyaf angheuol ond un. Mae diagnosis cynnar yn hanfodol er mwyn gwella cyfraddau goroesi canser y coluddyn yng Nghymru, ond mae dulliau presennol ar gyfer canfod a thrin yn fewnwthiol ac yn wanychol.

Mae ein grŵp ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall mecanweithiau cynnydd canser er mwyn adnabod digwyddiadau cychwyn allweddol y gellid eu defnyddio mewn profion diagnostig a thriniaethau newydd. Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu dulliau ar gyfer canfod rhyngweithiadau pellgyrhaeddol rhwng cromosomau gwahanol mewn celloedd cyn-ganseraidd. Nod yr astudiaeth hon yw archwilio’r cysylltiadau rhwng cromosomau sy’n gysylltiedig â chlefydau mewn llinellau celloedd canser y coluddyn a samplau cleifion.

Wrth fodelu cychwyniad canser mewn llinellau celloedd, rydym yn gobeithio darganfod cysylltiadau annormal rhwng cromosomau a allai ragflaenu cychwyniad mwtaniadau, yn ogystal ag amharu o bosibl ar weithrediad a threfniant arferol y genom. Byddwn yn ymchwilio i weld a ellir canfod y digwyddiadau hyn neu ddigwyddiadau tebyg mewn samplau cleifion fel dangosyddion diffiniol ar gyfer canser y coluddyn.

Y prif amcan yw diffinio patrymau malaenedd cyffredin sy’n darparu dulliau newydd o adnabod a thrin canser y coluddyn yn ei gamau cynharaf er mwyn cyflawni gwelliant sylweddol mewn canlyniadau cleifion.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Duncan Baird

Prifysgol Caerdydd