Ymchwil Systemau Iechyd a Deilliannau
Nid yw ymchwil canser yn digwydd mewn labordai yn unig, ond mewn cymunedau a phractisau gofal iechyd ledled Cymru. Rydym ni’n deall nad yw arbed bywydau’n ymwneud â dod o hyd i driniaethau newydd yn unig – mae’n ymwneud â chael systemau cadarn ac isadeileddau cenedlaethol ar waith, fel nad yw canser yn mynd heb ei ganfod. Mae ein holl weithredoedd yn canolbwyntio ar gleifion a nod ein hymchwil yw diogelu systemau iechyd at y dyfodol i bawb. O fewn y maes gwaith hwn, rydym ni’n darparu tystiolaeth ac ymyriadau i lywio a gwella llwybrau canser. Hefyd, rydym ni’n parhau i weithio tuag at fynediad cyfartal i’r arloesiadau diweddaraf ac i ofal o ansawdd uchel.

WICKED / ThinkCancer!
Math o ganser
Pob canser
Lleoliad
Canolfan Ymchwil Gynradd y Gogledd, Wrecsam
Tîm
Yr Athro Clare Wilkinson

Teithiau Diagnostig yng Nghanser y Brostad
Math o ganser
Y brostad
Lleoliad
Canolfan Ymchwil Gynradd y Gogledd, Wrecsam
Tîm
Yr Athro Clare Wilkinson
Gweler rhestr lawn o’n holl brosiectau presennol a phrosiectau a ariannwyd yn ddiweddar
Pob prosiect ymchwil