Manteisio ar angeuoldeb synthetig i drin canser: gwella gweithgarwch a phenodoldeb atalyddion MRE11 newydd
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Triniaethau gwell
Math o ganser
Yr Ymennydd, Y coluddyn, Yr Ofarïau
Yn draddodiadol, dewiswyd triniaeth ganser yn seiliedig ar y organ y tarddodd y canser ohoni. Fodd bynnag, mae dealltwriaeth folecwlaidd o ganser wedi caniatáu ar gyfer datblygu triniaethau wedi’u targedu, lle mae’r cyffur a ddewisir yn cael ei deilwra i newidiadau genetig penodol mewn celloedd canser. Gelwir y dull addawol hwn yn driniaeth wedi’i phersonoli ac ystyrir yn gyffredinol mai dyma dyfodol therapi canser.
Mae ymchwil wedi amlygu newidiadau genetig sy’n gysylltiedig â datblygiad canser mewn genynnau niferus – gall llawer o’r newidiadau hyn achosi gwendidau yn y celloedd canser y gellir eu targedu gan gyffuriau newydd.
Rydym wedi amlygu targed posibl ar gyfer triniaeth yn flaenorol, sef y protein MRE11. Yn aml, mae celloedd canser yn dibynnu ar orfynegiad MRE11 i oroesi ac amlhau. Felly, rydym wedi dechrau datblygu atalyddion MRE11 newydd. Hyd yma, rydym wedi amlygu 18 o gyfansoddion newydd ac unigryw sy’n gallu atal MRE11. Mae ein data rhagarweiniol a’n canlyniadau cyhoeddedig yn awgrymu y gallai’r atalyddion hyn drin amrywiaeth o ganserau.
Nod y prosiect hwn yw datblygu gwell atalyddion MRE11 a phrofi’r rhain ar gyfer amrywiaeth o fathau o ganserau. Nod tymor hir ein hymchwil yw datblygu un neu fwy o’n hatalyddion newydd tuag at eu cymhwyso’n glinigol, gan eu defnyddio i dargedu canserau amrywiol sy’n dibynnu ar MRE11.