Diagnosis a Sgrinio Cynnar
Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd gan 230,000 o bobl ar draws Cymru ganser. Mae diagnosis cynnar yn arwain at ddeilliannau gwell, oherwydd pan wneir diagnosis cynt o ganser, mae’n haws ei drin, ei reoli a’i iachau. Rydym ni’n gweithio’n ddiflino ar atebion sy’n gallu canfod canser adeg y pwynt cyswllt cyntaf, atebion sy’n cynyddu cywirdeb diagnosis ac atebion sy’n gwaredu unrhyw rwystrau rhag mynediad cynnar at y gofal iechyd cywir.
Prawf Gwaed Raman
Math o ganser
Y coluddyn
Lleoliad
Prifysgol Abertawe
Tîm
Yr Athro Dean Harris
TIC-TOC - Ymgyrch Targedig Dwys yn y Gymuned i Optimeiddio Ymwybyddiaeth Canser
Math o ganser
Pob canser
Lleoliad
Prifysgol Caerdydd
Tîm
Yr Athro Kate Brain
Gweler rhestr lawn o’n holl brosiectau presennol a phrosiectau a ariannwyd yn ddiweddar
Pob prosiect ymchwil