Symud at y prif gynnwys

Canfod Canserau Gynaecolegol yn Gynnar gan Ddefnyddio Technoleg sy'n Seiliedig ar Waed

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

BIP Bae Abertawe

Math o ymchwil

Diagnosis Cynnar

Math o ganser

Yr Ofarïau, Uterus

Yn aml, mae canserau gynaecolegol (fel canser yr ofarïau a chanser y groth) yn cael eu diagnosio’n hwyr, sy'n arwain at ganlyniadau gwael. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y symptomau’n amhendant yn aml (e.e. chwyddo, poen yn yr abdomen, blinder) ac oherwydd diffyg ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol iechyd. Ar ben hynny, mae profion gofal sylfaenol presennol yn anfanwl ac nid ydynt yn benodol ar gyfer y canserau hyn, ac mae llwybrau atgyfeirio o dan bwysau aruthrol, felly mae targedau triniaeth canser yn cael eu methu.

Mae'r tîm yn bwriadu datblygu a gwerthuso math newydd o brawf gwaed ar gyfer canserau gynaecolegol. Mae eu dull, sy'n dadansoddi "olion bysedd moleciwlaidd" y gwaed, wedi profi'n fuddiol yn flaenorol wrth ganfod canser y coluddyn.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio samplau gwaed y cleifion sy'n cael eu harchwilio ar gyfer canser yr ofarïau neu'r groth i bennu cywirdeb y prawf gwaed newydd. Gellid datblygu'r prawf i fod yn offeryn gwerthfawr y gallai meddygon teulu ei ddefnyddio i adnabod cleifion canser posibl yn gynt er mwyn gwella canlyniadau canser.

Disgwylir y byddai argaeledd prawf gwaed syml, yn lle’r offer diagnostig ymwthiol presennol, yn galluogi diagnosis cynharach o ganserau gynaecolegol, yn ogystal ag annog grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol i fynd at eu meddygon teulu yn fwy buan.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Dean Harris

Prifysgol Abertawe

Yr Athro Peter Dunstan

Prifysgol Abertawe