Ymchwil Darganfod ac Ymchwil Drosi
I drechu canser, mae’n rhaid i ni ei ddeall yn gyntaf. Diolch i’r gwaith rydym ni eisoes wedi’i wneud, rydym ni’n gwybod mwy am ganser nag erioed o’r blaen. Bob dydd, rydym ni’n troi’r wybodaeth hon yn driniaethau ac yn ddeilliannau gwell i gleifion canser. A byddwn ni’n dal ati i ddysgu, i ddeall mwy am sut mae canserau’n tyfu ac yn datblygu yn ein cyrff. Bydd y wybodaeth hon yn rhoi’r grym i ni greu triniaethau a phrofion gwell fyth sy’n fwy targedig a charedig i bobl â chanser, fel y gallant fyw bywyd gwell a hirach.
Imiwnogenedd Canser y Colon a’r Rhefr
Math o ganser
Y coluddyn
Lleoliad
Prifysgol Caerdydd
Tîm
Yr Athro Andrew Godkin
Ymenyddiau Bach: Llunio Model Glioblastoma Aml-linach
Math o ganser
Yr Ymennydd
Lleoliad
Prifysgol Caerdydd
Tîm
Yr Athro Mark Gumbleton
Gweler rhestr lawn o’n holl brosiectau presennol a phrosiectau a ariannwyd yn ddiweddar
Pob prosiect