Datblygu bacteria oncotropig ar gyfer canfod canser ac imiwnotherapi
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Triniaethau gwell
Math o ganser
Y Fron, Y pen a’r gwddf, Skin
Mae cyfoeth o wybodaeth sefydledig ynglŷn â pha enynnau sy’n mynd yn ddiffygiol mewn cleifion sy’n datblygu canser. Fodd bynnag, gan fod angen y genynnau hyn ar ein celloedd iach yn aml, ni ellir eu targedu gan gyffuriau a gyflwynir i’r corff cyfan heb sgil-effeithiau annymunol. I oresgyn hyn, mae angen datblygu ffyrdd o gyflwyno cyffuriau’n fwy penodol o lawer, yn uniongyrchol i’r canser. Byddai hyn yn lleihau niwed i feinweoedd iach i’r eithaf ac yn cynnig ystod o ffyrdd newydd o drin y prif diwmor, yn ogystal ag unrhyw diwmorau llai sydd wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff.
I’r perwyl hwnnw, rydym wedi creu bacteria sy’n gallu goroesi y tu mewn i gelloedd tiwmor ond nid celloedd iach, sy’n golygu eu bod yn ddiogel ac yn gallu cael eu rheoli’n rhwydd gyda gwrthfiotigau. Mae’r bacteria hyn yn gwneud triniaeth ganser benodol iawn, oherwydd bod ein system imiwnedd yn dda iawn am ladd y celloedd canser a heintiwyd â bacteria.
Gan ychwanegu at hyn, rydym bellach wedi datblygu bacteria sy’n gallu cyflwyno cyffuriau i dargedu genyn diffygiol claf, hefyd.
Os gallwn ddangos bod y dull hwn yn gweithio yn erbyn celloedd tiwmor dynol yn y labordy, gallwn ddechrau cymryd camau i’w ddatblygu i ganfod a thrin llawer o fathau cyffredin o ganserau.