Datblygu cronfa ddata gyfrifiadurol ar gyfer haenu carfanau cleifion canser y colon a’r rhefr: Asesu’r rhyngweithio rhwng microbau a chemotherapïau
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Abertawe
Math o ymchwil
Triniaethau gwell
Math o ganser
Y coluddyn
Mae microbiota’r perfeddyn, sef cymuned gymhleth o facteria yn ein system dreulio, yn amrywio’n fawr rhwng unigolion. Mae rhai mathau o facteria’n fuddiol, tra bod eraill yn niweidiol – ac eto nid ydym yn llwyr ddeall effaith lawn yr amrywiad hwn. Yn gyffredinol, mae bacteria buddiol yn tueddu i wella iechyd y perfeddyn ac mae bacteria niweidiol yn achosi clefyd. Er enghraifft, mae rhai mathau o facteria’n ysgogi tiwmorau’r colon a’r rhefr i ymddangos ac, yn fwy llechwraidd, mae ymchwil ddiweddar yn dangos y gallant leihau effeithiolrwydd cemotherapi.
Mae ymchwil bresennol wedi amlygu genynnau ym macteria’r perfeddyn sy’n gallu addasu cyffuriau cemotherapi. Fodd bynnag, nid yw’n glir pa facteria sy’n meddu ar y gallu hwn. Yn ddiddorol, mae ein hymchwil yn awgrymu bod bacteria buddiol yn gallu gwneud hyn. Mae hyn nid yn unig yn chwalu’r syniad o facteria da a drwg, ond hefyd yn awgrymu bod ein dealltwriaeth o’r rhyngweithio rhwng bacteria a chemotherapi yn frawychus o anghyflawn.
Bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â hyn i ryw raddau, fel bod gennym ddealltwriaeth fwy cyflawn o ba facteria sy’n gallu lleihau effeithiolrwydd cemotherapi a sut maen nhw’n gwneud hynny. Bydd hyn yn ein galluogi i lywio arferion clinigol a sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth fwyaf priodol yn fwy amserol. Yn ei dro, bydd hyn yn lleihau niwed i gleifion trwy gemotherapi aneffeithiol, ar yr un pryd â gwella canlyniadau a goroesiad trwy arwain y driniaeth gemotherapi fwyaf effeithiol ar gyfer cleifion canser unigol.