Symud at y prif gynnwys

Datblygu Asiant Newydd ar gyfer Targedu Ferroptosis er mwyn Trin Canserau a yrrir gan mTOR

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Y Fron, Y coluddyn

Mae gan y gymrodoriaeth hon ddwy nod, sef datblygu cyffur newydd sy’n unigryw i Gymru i drin canserau, a chefnogi a hyfforddi ymchwilydd canser ifanc addawol ymhellach, gan gyflymu datblygiad ei yrfa academaidd. Mae’r prosiect a’r tîm goruchwylio yn darparu amgylchedd hyfforddiant rhagorol i’r cymrawd ddysgu technegau newydd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer dylunio a chynhyrchu cyffur newydd i dargedu a lladd canser.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng cemegwyr a biolegwyr (ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd) i greu cyffur newydd sy’n manteisio ar wendid mewn celloedd canser. Mae’r cyffur hwn yn cynnwys nanoronyn haearn wedi’i gysylltu â chyffur gwrth-ganser addawol. Mae ymchwil arloesol yn Abertawe wedi dangos yn flaenorol fod nanoronynnau haearn yn cael eu danfon yn llwyddiannus i gelloedd canser. Mae’r gronynnau haearn hyn yn achosi straen ar y celloedd a elwir yn ‘ferroptosis’, ac mae hon yn ffenomen sydd newydd ei darganfod, a all ladd canser. Yn unigryw i’r ymchwil hwn, mae’r gronyn haearn yn cael ei atodi wrth foleciwlau ymyrryd bach sydd hefyd yn cael eu danfon i’r gell canser. Mae’r moleciwlau ymyrryd hyn wedi’u cynllunio i ladd celloedd canser wrth atal mecanweithiau amddiffyn rhag ferroptosis, ond ni fydd celloedd normal yn cael eu niweidio.

Bydd y gymrodoriaeth hon yn cynhyrchu triniaeth newydd gyda thystiolaeth arbrofol ategol er mwyn datblygu therapi canser newydd posibl yng Nghymru.

Tîm sy'n cymryd rhan

Yr Athro Andy Tee

Prifysgol Caerdydd