Biobeiriannu Microamgylcheddau Tiwmor y Prostad i Astudio Rhyngweithio Imiwnaidd a Sgrinio Cyffuriau
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Y brostad
Canser y prostad (PCa) yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion. Er bod modd trin PCa cam cynnar, mae’r gyfradd oroesi 5 mlynedd yn gostwng yn sylweddol i oddeutu 30% pan fydd y clefyd yn lledaenu. Er gwaethaf datblygiadau mewn cyffuriau, mae llawer o driniaethau addawol yn methu mewn treialon clinigol, yn rhannol o ganlyniad i anallu modelau labordy presennol i adlewyrchu cymhlethdod clefyd dynol yn gywir.
Mae celloedd nad ydynt yn ganseraidd o amgylch y tiwmor yn allweddol wrth sbarduno cynnydd canser ac ymwrthedd i therapi. Byddai datblygu model sy’n adlewyrchu hyn yn werthfawr iawn i ymchwil yn y dyfodol.
Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â hyn trwy ddyfeisio model hydrogel 3D newydd. Bydd y model hwn yn cynnwys celloedd canser y prostad a gafwyd o gleifion ynghyd ag elfennau allweddol o amgylch y tiwmor, gan gynnwys celloedd imiwn a chelloedd ffibroblast. Trwy ddynwared nodweddion biocemegol, mecanyddol ac imiwnolegol tiwmorau cleifion, bydd y model hwn yn adlewyrchu cyflwr tiwmor y claf yn fwy cywir.
Byddwn yn defnyddio’r model hwn i brofi effeithiolrwydd cyffuriau sydd mewn treialon clinigol ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar ddeall ymatebion triniaeth a’r rhyngweithio cymhleth rhwng celloedd canser a’u hamgylchedd. Mae’r model hwn yn gam arwyddocaol ymlaen o ran sgrinio cyffuriau cyn-glinigol, a allai wella canlyniadau clinigol a sgrinio strategaethau triniaeth newydd yn gyflym ar gyfer cleifion sydd â PCa datblygedig.