Triniaethau Gwell
Nod ein hymchwil arloesol i driniaethau gwell yw atal canser yn y fan a’r lle, i arbed ac ymestyn cynifer o fywydau â phosibl. Nod ein hymchwil hefyd yw dod o hyd i driniaethau mwy caredig sydd â llai o sgîl-effeithiau, i ddarparu ansawdd bywyd gwell i bobl sy’n bwy gyda chanser a thu hwnt i ganser.
PEARL – Gwneud radiotherapi yn fwy effeithiol gan leihau sgîl-effeithiau hirdymor
Math o ganser
Y pen a’r gwddf
Lleoliad
Canolfan Ganser Felindre
Tîm
Yr Athro Mererid Evans
BiCCC – Atal ailwaelu mewn cleifion canser y coluddyn uchel eu risg yn dilyn llawdriniaeth
Math o ganser
Y coluddyn
Lleoliad
Prifysgol Caerdydd
Tîm
Yr Athro Andrew Godkin
Firotherapi – Peiriannu firysau i dargedu a lladd canserau’r pancreas
Math o ganser
Y pancreas
Lleoliad
Prifysgol Caerdydd
Tîm
Yr Athro Alan Parker
Gweler rhestr lawn o’n holl brosiectau presennol a phrosiectau a ariannwyd yn ddiweddar
Pob prosiect ymchwil