Cymhwyso Genynnau/Antigenau Canser-Testis i Fynd i’r Afael ag Anghenion Clinigol Pwysig nas Diwallwyd mewn Oncoleg
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Bangor
Math o ymchwil
Diagnosis Cynnar
Math o ganser
Y coluddyn, Yr Afu, Yr ysgyfaint
Mae canser yn parhau i ladd gormod o bobl ac mae’n dal i fod yn her arbennig yng Nghymru. Gallai nifer sylweddol o fywydau gael eu hachub, a gallai llawer o gleifion canser osgoi triniaethau diangen pe gallwn ddod o hyd i ddulliau hawdd, anfewnwthiol a chywir o adnabod canserau yn gynt. Yn ogystal, gall y methodolegau hyn helpu i lywio timau meddygol wrth benderfynu ar y llwybr gofal/triniaeth gorau ar gyfer cleifion unigol, gan gynyddu canlyniadau cadarnhaol ymhellach a galluogi dyrannu adnoddau yn fwy cost-effeithiol. Ar ben hynny, prin yw’r triniaethau sydd ar gael ar gyfer rhai canserau cyffredin datblygedig, sy’n gadael llawer o gleifion heb unrhyw opsiynau therapiwtig effeithiol.
Rydym wedi nodi tri maes o fewn llwybr gofal cleifion lle gallai adnabod ffactorau a ddefnyddir yn benodol gan gelloedd canser, ond nid celloedd iach, ddarparu ymyriadau newydd i achub bywydau. Cyfeirir at y ffactorau hyn yn aml fel ‘biofarcwyr’ ac maent yn bennaf yn foleciwlau protein sy’n gweithredu i helpu’r canser i oroesi a datblygu. Rydym wedi nodi nifer o’r moleciwlau targed hyn ac wedi casglu tîm cymysg o wyddonwyr, doctoriaid meddygol, arbenigwyr cyfrifiadurol, a phartneriaid mewn technoleg, a fydd yn ein galluogi i fanteisio ar y moleciwlau hyn. Bydd y gwaith yn darparu technolegau ar gyfer gwneud diagnosis o ganser yn gynharach ac i ddatblygu therapiwtegau a dulliau newydd i lywio’r llwybr gofal unigol mwyaf effeithiol.