Symud at y prif gynnwys

Nodweddu Microstrwythur Datblygedig y Prostad gyda MRI Graddiant Cryf Iawn

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Diagnosis Cynnar

Math o ganser

Y brostad

Ein prif nod yw dangos prawf cysyniad ar gyfer delweddu’r chwarren brostad gyda manylion digynsail gan ddefnyddio un o sganwyr MRI mwyaf pwerus y byd.

Bydd yr astudiaeth hon, sef y gyntaf o’i math yn fyd-eang, yn delweddu’r prostad gan ddefnyddio sganiwr MRI Siemens ‘Connectom’. Mae’r sganiwr hwn wedi’i leoli yng Nghymru (ym Mhrifysgol Caerdydd), ac mae’n un o bedwar yn unig ledled y byd (mae’r lleill yn Tsieina, yr Almaen, ac Unol Daleithiau America), ond mae ein safle yng Nghymru yn wahanol o ran cael cymorth i sganio’r prostad.

Mae’r Connectom yn creu delweddau manwl iawn o feinwe, ac rydym eisoes yn cymhwyso ‘delweddu microstrwythurol’ o’r fath ar yr ymennydd dynol i fesur maint, siâp a dwysedd celloedd. Rydym yn gwybod bod y priodweddau hyn yn wahanol rhwng tiwmorau a meinwe normal, felly bydd defnyddio’r technolegau hyn i gael ‘biopsi rhithwir’ o’r prostad yn cynrychioli ‘newid sylweddol’ mewn diagnosis canser y prostad, ac yn y pen draw gallai ddisodli’r biopsi nodwydd.

Bydd dichonoldeb y dull hwn yn cael ei werthuso; yn gyntaf, wrth asesu ansawdd y delweddau o’r brostad, a pha mor glir y gellir gweld anatomi’r chwarren brostad a’r strwythurau yn y pelfis, ac yn ail wrth gymharu mesuriadau o briodweddau celloedd mewn prostad normal a phrostad â chanser, er mwyn gweld a allwn ganfod unrhyw wahaniaethau yn y gwerthoedd mesuredig.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Kieran Foley

Canolfan Ganser Felindre