Symud at y prif gynnwys

Rôl Newydd ar gyfer y Synhwyrydd DNA IFI16 mewn Ymateb Celloedd Canser i Gemotherapi

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Bangor

Math o ymchwil

Darganfod

Math o ganser

Pob canser

Rhaid i bob cell gopïo eu DNA cyn rhannu. Mae celloedd canser yn rhannu’n gyflym, felly gall tiwmorau gael eu targedu gan gemotherapïau sy’n ymyrryd â chopïo DNA, fel Cisplatin. Er mwyn copïo DNA, rhaid i’r gell agor dau edefyn yr helics DNA i gael mynediad i’r cod genetig. Mae Cisplatin yn ffurfio cyswllt rhwng yr edafedd DNA (a elwir yn ICL) fel na ellir eu hagor - mae hyn yn arwain at ddifrodi’r DNA, sy’n lladd y celloedd canser. Fodd bynnag, mae gan gelloedd ffyrdd arbenigol o gael gwared ar ICLs, y mae celloedd canser yn eu defnyddio i wrthsefyll effeithiau triniaeth.

Rydym yn gweithio ar brotein o’r enw IFI16, a ddatblygodd i adnabod DNA firysau sy’n ymledu. Rydym wedi nodi rôl newydd ar gyfer IFI16 mewn helpu celloedd canser i ymdrin â Cisplatin, ac wedi darganfod bod IFI16 yn rhwymo i DNA sydd newydd ei ffurfio, a bod IFI16 yn cael ei addasu ar ôl triniaeth Cisplatin, a allai esbonio’n rhannol sut mae’n gweithredu mewn celloedd. Rydym yn gwneud cais am gyllid i bennu’n union sut mae IFI16 yn cyfyngu ar ddifrod a achosir gan Cisplatin, ac i brofi pwysigrwydd addasu IFI16. Gall gwybod sut mae celloedd yn atgyweirio ICLs a achosir gan gemotherapi arwain at ffyrdd newydd o dargedu canserau, ac adnabod pa gleifion sy’n debygol o ymateb i gyffuriau penodol.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Chris Staples

Prifysgol Bangor