Symud at y prif gynnwys

Dull Progyffur Newydd ar gyfer Darganfod Therapiwteg Wrthganser sy’n Targedu STAT

Donate today and contribute to future projects

Rhoi

Lleoliad

Prifysgol Caerdydd

Math o ymchwil

Triniaethau gwell

Math o ganser

Y Fron

Er bod camau breision wedi’u cymryd wrth drin canser y fron, mae’r clefyd hwn yn dal i achosi marwolaeth tua 11,500 o fenywod ac 85 o ddynion bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ystadegau hyn yn pwysleisio’r angen am driniaethau mwy effeithiol ar gyfer canser y fron.

I fynd i’r afael â’r angen hwn, rydym wedi canolbwyntio ar brotein o’r enw STAT3, sy’n gwneud i ganser y fron ffynnu. Mae’r protein hwn yn gysylltiedig â’r math mwyaf ffyrnig o ganser y fron sy’n arwain at bron 40% o’r holl farwolaethau canser y fron.

Yn y prosiect hwn, ceisiwn ddatblygu cyffuriau sy’n atal rôl y protein hwn wrth wneud i ganser y fron ffynnu. Mae ein ffordd o gyflawni hyn yn ychwanegu at ddarganfyddiad a wnaed gennym ynglŷn â dull newydd o dargedu STAT3 mewn ffordd fwy effeithiol nag a wnaed o’r blaen. Gan ddefnyddio’r dull newydd hwn a’n harbenigedd wrth ddatblygu cyffuriau newydd, bydd y gwaith a wneir yn y prosiect hwn yn ein symud ymlaen tuag at ddatblygu triniaethau mwy effeithiol ar gyfer y math mwyaf ffyrnig o ganser y fron.

Yn y pen draw, y nod yw rhoi opsiynau triniaeth newydd i glinigwyr i wella cyfraddau goroesi canser y fron.

Tîm sy'n cymryd rhan

Dr Youcef Mehellou

Prifysgol Caerdydd