Gyda’n gilydd, gallwn newid canser yng Nghymru
Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym ni’n ariannu doethuriaethau, cymrodoriaethau ôl-ddoethur a grantiau prosiect, fel rhan o’n hymchwil o’r radd flaenaf i fynd i’r afael â heriau mawr a blaenoriaethau allweddol canser yng Nghymru. Ers 1966, rydym ni wedi ariannu dros £30m o ymchwil ragorol yma yng Nghymru, ond bu ein canlyniadau i’w gweld ledled y byd. Efallai mai eich prosiect chi fydd nesaf. Gyda’ch ymchwil chi, a’n cyllid ni – gallwn drawsnewid canser yng Nghymru a thu hwnt.
Yr Athro Alan Parker
Prifysgol Caerdydd
“Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn hanfodol wrth fy helpu i ddatblygu technolegau sydd â rhagolygon gwirioneddol o gael eu profi mewn cleifion yn y blynyddoedd nesaf. Mae cael cefnogaeth Ymchwil Canser Cymru wedi bod ac yn parhau'n ganolog i'n rhaglen ymchwil.”