Symud at y prif gynnwys

Nawr yw’r amser am ymchwil.

Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd 230,000 o bobl ledled Cymru yn byw gyda chanser. Nid fu ymchwil erioed yn bwysicach. Rydym yn cefnogi’r ymchwilwyr a’r clinigwyr canser gorau i wneud y darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid bywydau. Mae ein hymchwil yn cynnig gobaith i bobl yr effeithir arnynt gan ganser heddiw, ac yn trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.

Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi:

Ariannu

£17,500,000

Cefnogi

75

Dr Ramsay McFarlane

Prifysgol Bangor

“Mae Ymchwil Canser Cymru yn mabwysiadu ymagwedd uniongyrchol, ymarferol at weithio gyda ni, sydd wedi ein galluogi i greu synergedd gwirioneddol er budd cleifion. Dyma pam rydym ni o’r farn mai Ymchwil Canser Cymru yw ein partner pwysicaf wrth sicrhau bod pobl Cymru’n elwa o wyddor glinigol o ansawdd uchel yn awr ac yn y dyfodol.”