Millie-Mae Adams, Jamie Baulch, Mari Grug, Angela Jay, Philippa Tuttiett, Nigel Walker a’r entrepreneur o ogledd Cymru, Rob Lloyd, yw llysgenhadon newydd Ymchwil Canser Cymru.
Cawsant eu penodi i’r rolau gwirfoddol i gydnabod eu cefnogaeth i’r elusen ymchwil canser Gymreig.
Bydd y saith yn helpu i godi proffil Ymchwil Canser Cymru ac yn gweithredu fel cynrychiolwyr i’r elusen gan helpu gyda gweithgareddau fel codi arian.
Wrth groesawu’r llysgenhadon newydd, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru, Adam Fletcher:
“Mae’n fraint i mi groesawu ein ‘Saith Seren’ i Ymchwil Canser Cymru ac rwy’n gyffrous iawn i gael cefnogaeth unigolion mor rhyfeddol o ddawnus ac uchel eu cyflawniad i’n helusen.
“Mae gennym lysgenhadon sydd wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad; mae un wedi cyhoeddi cyfrannau cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ac mae dau wedi sefydlu busnesau llwyddiannus ac yn ddyngarwyr brwd.
“Yn y cyfamser, mae gennym ddau o’r darlledwyr mwyaf amlwg ac uchel eu parch yng Nghymru, yn ogystal â myfyriwr meddygaeth ac ymgyrchydd dros newid cymdeithasol sy’n digwydd bod yn Miss World Cymru, hefyd – mae’n ystod ryfeddol ac amrywiol o dalent a phrofiad ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl lysgenhadon.”